Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Ragolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru
Media(4)-01-11 : Papur 1
Euryn Ogwen Williams
Mae tri realiti sylfaenol:
1.Nid datblygiad o nac ychwanegiad at y byd analog yw'r byd
digidol.
2.Technoleg yw’r catalydd ond pobl yn ei ddefnyddio
sy’n gwneud y newid.
3. Mae Cymru ddatganoledig yn cael ei heffeithio yn ddiwylliannol
ac yn economaidd gan y newid.
Mae'r newid sy'n digwydd ar hyn o bryd yn newid creiddiol ac mae'n cyflymu wrth fynd yn ei flaen.
Her athronyddol ydy hi yn ei hanfod yn gymaint a her dechnolegol a gwleidyddol. Mae'n codi pynciau preifatrwydd, hawliau unigolyn yn ogystal a phynciau economaidd.
Mae sefydliadau yn ynysu eu hunain oddiwrth y newid wrth geisio
amddiffyn eu statws. Nid yw sefydliad analog yn gallu goroesi
yn y byd digidol.
Yn y byd analog roedd yna wylwyr, gwrandawyr a darllenwyr. Yn
y byd digidol mae pawb yn cymryd rhan ac yn
rhanddeiliaid.
Mae'n anochel gyda datganoli fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd rhan ac yn derbyn cyfrifoldeb dros y newid.
Rhaid i ddiwylliant y cyfryngau fod yn flaengar ac ymateb i’r
newid yr un pryd. Mae'r sector gynhyrchu annibynnol yn sylfaen da i
adeiladu arno wrth wynebu’r her. Bydd angen
buddsoddiadau beiddgar mewn cwmniau digidol.
Yn y byd digidol mae tair elfen:
1.Creu cynnwys: yn seiliedig ar greadigrwydd ac
effeithiolrwydd y sector greadigol.
2.Dosbarthu: beth mae darlledwyr a chyhoeddwyr wedi ei wneud
yn draddodiadol. Erbyn hyn rhaid sicrhau fod y cynnwys yn cyrraedd
pawb ym mhob man ar bob dyfais.
3. Cludiant: mae angen band llydan a diwifr yn ein trefi a'n
dinasoedd yn allweddol i gyfathrebu digidol. Cyfrifoldeb
Llywodraeth Cymru yw hyn.
Cyllido S4C: mae'n berffaith rhesymol i sicrhau cyllid
priodol o’r ffi drwydded. Am y ddeng mlynedd cyntaf
cyllidwyd S4C gan yr IBA o arian hysbysebu ITV gyda’r
Ysgrifenydd Gwladol yn canoli os oedd gwahaniaeth barn. Ni
ddigwyddodd hynny. Yr egwyddor yw na ddylai ffynhonell y
cyllid lesteirio rhyddid creadigol na rheolaeth olygyddol.
Bu darlledu cyhoeddus ynghanol hunaniaeth, datblygiadau cymdeithasol ac uchelgais greadigol Cymru ers dros hanner canrif. Dylai’r ddeddfwriaeth newydd ddiffinio swyddogaeth ein Cynulliad Cenedlaethol yn goruchwylio’r datblygiad yn y ddwy iaith yn y dyfodol.
Mae’r byd digidol yn bersonol, lleol a byd-eang yr un pryd.
Rol y llywodraeth yw cefnogi a datblygu creadigrwydd, nid
rheoli.